Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Talu Dirwy DVLA
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth talu dirwy’r DVLA.
Rheolir y wefan hon gan DVLA. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
- chwyddo hyd at 400% heb i’r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrîn
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- cafodd defnyddwyr darllenwyr sgrin brofiad cadarnhaol o ddefnyddio’r wefan ond cawsant rai anawsterau a wnaeth llywio’r gwasanaeth ychydig yn fwy heriol nag yr oeddent wedi’i ddisgwyl
- nid oes gan gynnwys di-destun sy’n cael ei gyflwyno ar dudalen ddewis arall testun sy’n cyflawni’r pwrpas cyfatebol
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: vehicleservices@dvla.gov.uk
Os oes angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print mawr, hawdd i’w ddarllen, recordio sain neu braille, e-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol a byddwn yn gweld a allwn helpu, neu cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt drwy:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 3 diwrnod.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae DVLA wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon wedi cael ei phrofi yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.2.
Mae’r wefan yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 safon AA, a hynny oherwydd y materion anghydffurfio a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol:
Anghydffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
1.1.1 Cynnwys di-destun (Lefel A)
Nid oes gan gynnwys di-destun sy’n cael ei gyflwyno ar dudalen ddewis arall testun sy’n cyflawni’r pwrpas cyfatebol
1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau (Lefel A)
Canfuwyd penawdau gweledol heb unrhyw semanteg i dechnoleg gynorthwyol eu hadnabod. Mae penawdau nid yn unig yn galluogi llywio effeithlon o’r dudalen, ond hefyd yn ffordd i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin ddeall strwythur a chynllun y dudalen.
Rydym yn bwriadu mynd i’r afael â’r problemau hygyrchedd hyn erbyn 7 Ebrill 2026. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau ei fod yn bodloni safonau hygyrchedd.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
1.4.6 Cyferbynnedd (Uwch) (Lefel AAA)
Mae rhywfaint o destun yn cael ei arddangos gyda chymhareb cyferbyniad nad yw’n bodloni’r gofyniad lleiaf i fodloni’r meini prawf.
3.2.5 Newid ar Gais (Lefel AAA)
Canfuwyd dolenni a oedd yn agor mewn tab newydd ond nad oeddent yn hysbysu defnyddwyr am y swyddogaeth hon.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 14 Chwefror 2025. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 14 Chwefror 2025.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 22 Rhagfyr 2025 yn erbyn y safon AA WCAG 2.2. Cafodd y prawf ei gynnal gan Digital Accessibility Centre Limited.