Telerau ac amodau

Mae’r telerau ac amodau hyn yn llywodraethu’ch defnydd o wefan Talu Dirwy Cerbyd DVLA a’ch perthynas â’r wefan hon. Darllenwch hwy yn ofalus gan eu bod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhwymedigaethau o dan y gyfraith. Os nad ydych yn cytuno â’r Telerau ac Amodau hyn, peidiwch â defnyddio’r wefan hon.

Defnyddio’r wefan hon

Mae DVLA yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon yn gywir. Fodd bynnag, ni all DVLA dderbyn unrhyw atebolrwydd am y cywirdeb neu’r cynnwys. Mae ymwelwyr sy’n dibynnu ar yr wybodaeth hon yn gwneud hynny ar eu cyfrifoldeb eu hunain.

Ni allwn warantu na fydd unrhyw namau gyda’r gwasanaeth. Os bydd nam yn digwydd, dylech ei adrodd ar 0300 790 6808 a byddwn yn ceisio cywiro’r nam cyn gynted ag y gallwn o fewn rheswm.

Hypergysylltu

Ein polisi yw cael caniatâd i gysylltu â gwefannau eraill. Nid yw DVLA yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau sydd wedi’u cysylltu a nid yw o reidrwydd yn cymeradwyo’r safbwyntiau a fynegir arnynt. Ni ddylid ystyried y rhestrau fel cymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau sydd wedi’u cysylltu.

Diogelu rhag firysau

Mae DVLA yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu. Peth doeth bob amser fyddai i bob defnyddiwr redeg rhaglen gwrthfeirysau ar unrhyw ddeunydd sy’n cael ei lawrlwytho o’r we.

Ni all DVLA fod yn gyfrifol am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol, neu unrhyw achos o darfu arnynt, yn sgil defnyddio deunydd a ddaw o’r wefan hon.

Cardiau talu

Derbynnir cardiau debyd a chredyd ar gyfer taliadau ar y wefan hon. Trosglwyddir gwybodaeth am gardiau yn unol â’n datganiad diogelwch.

Y gyfraith gymwys

Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd unrhyw anghydfodau’n cael eu penderfynu gan lysoedd Lloegr yn unig.

Diwygiadau i’r Telerau ac Amodau

Efallai y byddwn yn diweddaru’r Telerau ac Amodau hyn o bryd i’w gilydd. Os ydych yn parhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl y dyddiad y daw’r newidiadau i rym, mae eich defnydd o’r wefan yn nodi bod eich cytundeb yn cael ei rwymo gan y Telerau ac Amodau newydd.

Datganiad Diogelwch

Rydym yn ystyried diogelwch yn ddifrifol iawn. Mae’r wefan wedi’i ffurfweddu i drosglwyddo data gan ddefnyddio’r Haenen Socedi Diogel (SSL), un o’n systemau diogelwch cryfaf i ddiogelu eich cyfathrebiadau gyda ni. Pryd bynnag y byddwch chi’n mewbynnu manylion eich cerdyn debyd, caiff ei ddiogelu yn awtomatig gan ddefnyddio’r SSL gydag amgryptio 128 bit.

Mae SSL yn gweithio yn y ffyrdd canlynol:

  • Mae’n atal personadu - gallwch adnabod eich bod yn defnyddio gwefan SSL ddilys gyda’r symbol clo clap ar waelod y sgrin.
  • Mae’n amgryptio data - cyn gynted ag y mae’ch cyfrifiadur chi wedi cydnabod ein cyfrifiadur, maent yn amgryptio’r holl wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo rhyngddynt. Mae amgryptio data’n golygu na all neb arall ddarllen neu newid eich gwybodaeth wrth iddo deithio dros y Rhyngrwyd.
  • Mae’n atal sgramblo - mae SSL yn defnyddio Cod Dilysu Neges (MAC) i atal unrhyw un rhag ymyrryd â’n gwefan. Bydd eich cyfrifiadur bob amser yn gwirio’r cod hwn cyn iddo gael neges oddi wrthym ni. Mae hyn yn golygu, os bydd rhywun yn ceisio ymyrryd â neges, na fyddai eich cyfrifiadur yn adnabod y cod a byddai’n eich hysbysu.

Pa wybodaeth ydym ni’n ei chasglu?

Rydym yn casglu dwy fath o wybodaeth gan ymwelwyr i’r wefan hon: adborth (trwy ymwelwyr sy’n cwblhau holiaduron adborth neu’n anfon e-bost atom) a gwybodaeth am ddefnydd o’r safle, gan gwcis a thagio tudalennau.

Gwybodaeth am ddefnyddio’r safle

Mae ffeiliau log yn ein caniatáu i gofnodi sut mae ymwelwyr yn defnyddio’r wefan hon, ac rydym yn defnyddio hyn i wneud gwelliannau i gynllun y wefan ac i’r wybodaeth arni, yn seiliedig ar y ffordd y mae ymwelwyr yn llywio o’i chwmpas. Nid yw ffeiliau log yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi.

Diwygiadau i’r datganiad diogelwch

Os bydd y datganiad diogelwch a phreifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn gosod fersiwn wedi’i diweddaru ar y dudalen hon.

Polisi cwcis ar-lein talu dirwy

Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau, rydym am eu gwneud yn hawdd, defnyddiol a dibynadwy. Pan ddarperir gwasanaethau ar y Rhyngrwyd, weithiau mae hyn yn golygu gosod ychydig bach o wybodaeth ar eich dyfais, er enghraifft, cyfrifiadur neu ffôn symudol. Mae’r rhain yn cynnwys ffeiliau bach o’r enw cwcis. Ni ellir eu defnyddio i’ch adnabod chi yn bersonol.

Defnyddir y darnau o wybodaeth hyn i wella gwasanaethau i chi trwy, er enghraifft:

  • galluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais felly does dim rhaid i chi roi’r un wybodaeth sawl gwaith yn ystod un dasg.
  • cydnabod efallai eich bod eisoes wedi rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair felly nid oes angen i chi ei wneud ar gyfer pob tudalen we y gofynnwyd amdano.
  • mesur sawl person sy’n defnyddio gwasanaethau, fel y gellir eu gwneud yn haws i’w defnyddio ac mae digon o gynhwysedd i sicrhau eu bod yn gyflym.

Ein defnydd o gwcis

Ar hyn o bryd, yr unig gwci ar ein Gwasanaeth Talu Dirwy Cerbyd yw ‘cwcis sesiwn’ sy’n ffeiliau cwci dros dro ac yn cael eu dileu wrth i chi gau eich porwr.

Math o gwci: Sesiwn

Mantais: Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi gyda’r cyfeirnod cosb a’r rhif cofrestru cerbyd o’ch hysbysiad cosb, ni fydd yn rhaid i chi ei wneud ar gyfer pob tudalen we rydych yn gofyn amdani gan ein gwasanaeth.

Pan fyddwch chi’n ailgychwyn eich porwr ac yn dychwelyd i’r wefan a greodd y cwci, ni fydd y wefan yn eich adnabod chi. Bydd yn rhaid i chi fewngofnodi eto. Bydd cwci sesiwn newydd yn cael ei gynhyrchu, a fydd yn storio eich gwybodaeth bori a bydd yn weithredol nes i chi adael y safle a chau eich porwr.

Diweddarwyd diwethaf: 25 Ebrill 2018